Y GWANWYN hwn, bydd nofel fywgraffiadol arbennig yn cael ei lansio, fel teyrnged i’r ‘arwr anghofiedig’, Edgar Evans, o Rosili.
Meddai’r awdur Jon Gower: “Nofel yw hon am ddyn o ymylon gwynion y llyfrau hanes, ond peidiwch â disgwyl yr holl ffeithiau yma, na hyd yn oed y ffeithiau cywir.
“Nofel ddychmygus sydd yn eich dwylo, nid ymgais i gyfleu’r gwir na’r hyn ddigwyddodd mewn gwirionedd – chwarae ’da hanes, nid ei gyfleu.
“Ond mae ysbryd Evans yma, gobeithio. Cymro. Dyn solet. Dyn i’w edmygu.”
Magwyd Edgar Evans, yn fab ac yn ŵyr i forwyr, felly roedd heli môr yn ei waed o’r dechrau un. Ymunodd â’r Llynges Frenhinol yn llencyn pymtheg oed, ac yn rhinwedd ei ddyletswyddau fe enillodd barch am ei etheg gwaith, ei deyrngarwch, ei gryfder a’i hiwmor.
Cafodd ei ddewis gan y byd-enwog Gapten Robert Falcon Scott i ymuno ag o a’i griw ar antur i’r Antarctig yn 1901. Ddegawd yn ddiweddarach, fe’i dewiswyd eto, gan Scott, i fynd ar alltaith arall i’r Antarctig; y tro hwn, ar ras – yn erbyn y fforiwr mawr o Norwy, Roald Amundsen – i geisio bod y bodau dynol cyntaf erioed i gyrraedd Pegwn y De.
Cawn, yn y bywgraffiad lled-ffeithiol hwn, glywed y stori am y cyrch enbyd trwy lygaid, ac o enau’r Cymro a oedd yn aelod cwbl greiddiol o griw’r Terra Nova ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Cawn ddod i adnabod Edgar fel dyn ac fel person wrth iddo frwydro’r elfennau tra’n ymaflyd â’i hiraeth dwys am ei wraig a’i blant, a’i gynefin ar Benrhyn Gŵyr.